P-05-711 – Sicrhau bod Anghenion Pobl Anabl am Addasiadau i Dai yn cael eu Diwallu’n Ddigonol

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Whizz-Kidz, Cardiff Ambassador Club, ar ôl casglu 30 llofnod ar lein a 95 llofnod bapur – cyfanswm o 125 llofnod

Geiriad y ddeiseb

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymrwymo i sicrhau nad oes yn rhaid i bobl anabl yng Nghymru aros mwy na thair blynedd i gael yr addasiadau hanfodol i’w tai / y tai y mae arnynt eu hangen, ac i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod staff sy’n ymdrin ag achosion tai ag addasiadau wedi cael hyfforddiant digonol a’u bod yn atebol am sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu diwallu.

Gwybodaeth ychwanegol

​Mae rhai o’r Llysgenhadon Ifanc yng nghlwb Whizz-Kidz Caerdydd wedi brwydo’n hir i gael eu hanghenion o ran tai wedi’u diwallu.  Mae llawer o anghysondeb wrth fynd i’r afael ag achosion ac mae un person ifanc yn y grŵp wedi methu byw gyda’r teulu ers dros saith mlynedd am nad oes tŷ addas ar gael. Credwn fod hyn yn annerbyniol, a gyda rhagor o gysondeb ac atebolrwydd wrth fynd i’r afael ag achosion a gwell hyfforddiant i staff, gallai’r sefyllfa wella.

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         N/A